Ymateb y Llywodraeth: Casglu Deunyddiau Gwastraff Ar Wahân i'w Hailgylchu – Cod Ymarfer Cymru

 

Pwynt Craffu 1.1:

 

Wrth ddrafftio'r Cod, ystyriwyd sut y gallai gael ei ddefnyddio gan bobl yn ymarferol. Cydnabyddir y bydd yna bobl na fydd yn darllen y Cod yn ei gyfanrwydd, gan mai dim ond rhan benodol o'r Cod allai fod yn berthnasol iddynt.  Er mwyn cynyddu hygyrchedd y Cod, ystyrir y byddai'n ddefnyddiol cynnwys gwybodaeth am fathau o wastraff mewn gwahanol adrannau o'r Cod, pan fo'r wybodaeth yn berthnasol, yn hytrach na chyfuno hyn i un rhan gynhwysfawr o'r Cod.  Nodir sylwadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad (LJCC), ond nid ydym yn ystyried bod angen newid.

 

Pwynt Craffu 1.2:

 

Mae'r diffiniad o 'gwastraff peryglus' o dan y drefn wastraff peryglus yn gymhleth, ond nid ydym yn credu ei bod yn bosibl – at ddibenion y Cod - ei grynhoi na'i symleiddio heb y risg o'i symleiddio hyd nes bod risg o fod yn anghywir.  Ni fydd y rhan fwyaf o'r gwastraff a gynhyrchir gan yr eiddo a gwmpesir gan Reoliadau 2023 yn beryglus, a dylai'r meddianwyr hynny sy'n trin neu'n cynhyrchu gwastraff peryglus yn rheolaidd fod yn gyfarwydd â'r drefn wastraff peryglus.  Nodir sylwadau'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad (LJCC), ond nid ydym yn ystyried bod angen newid.

 

Pwynt Craffu 1.3

 

Rydym yn cytuno y dylai'r cyfeiriadau ym mharagraffau 6.9 a 7.30 adlewyrchu'i gilydd, felly bydd y paragraffau hyn yn cael eu diwygio i gyfeirio at Reoliadau 2014 a Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009. Wrth ystyried hyn, gwneir diwygiadau hefyd i’r cyfeiriadau at Reoliadau 2014 ym mharagraff 6.10. Mewn perthynas â pharagraff 7.26, bwriedir i'r cyfeiriad hwn fod mewn perthynas â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn unig, gan fod hyn yn adlewyrchu Rheoliadau 2023 felly ni wneir unrhyw newid."

 

Pwynt Craffu 1.4:

 

Rydym yn cytuno y dylai'r cyfeiriadau adlewyrchu ei gilydd. Bydd y cyfeiriad yn yr eirfa yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r testun ym mhrif gorff y Cod: "cig, pysgod, llaeth ac wyau pan nad ydynt wedi'u bwriadu i gael eu bwyta gan bobl".

 

 

Pwynt Craffu 2:

 

Rydym yn derbyn bod y cyfeiriad deddfwriaethol yn anghywir.  Bydd y testun ym mharagraff 7.31 o'r Cod yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu bod y gwaharddiad a'r drosedd gysylltiedig wedi'u nodi yn adran 34D o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

 

Pwynt Craffu 3.1:

 

Rydym yn cytuno ag arsylwadau'r LJCC a byddwn yn diwygio'r geiriad perthnasol fel yr awgrymir. 

 

Pwynt Craffu 3.2

 

Rydym yn cytuno ag arsylwadau'r LJCC a byddwn yn diwygio'r geiriad perthnasol fel yr awgrymir.

 

Pwynt Craffu 3.3

 

Rydym yn cytuno ag arsylwadau'r LJCC a byddwn yn diwygio'r geiriad perthnasol fel yr awgrymir.

 

Pwynt Craffu 3.4

 

Rydym yn nodi sylwadau'r LJCC ac yn cadarnhau bod y frawddeg hon wedi'i hepgor mewn camgymeriad.  Bydd y frawddeg goll yn cael ei mewnosod yn nhestun Saesneg y Cod.

 

Pwynt Craffu 3.5

 

Rydym yn nodi sylwadau'r LJCC ac yn cadarnhau mai camgymeriad yw hyn. Bydd y Cod yn cael ei ddiweddaru i gywiro hyn.

 

 

Newidiadau ychwanegol

 

Yn ogystal â'r newidiadau a wnaed mewn ymateb i'r adroddiad, bydd y Pwyllgor yn dymuno nodi bod adolygiad ychwanegol hefyd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r cyfieithiad o 'unsold'.  Mae hyn wedi'i gyfieithu fel 'heb ei werthu' neu 'heb eu gwerthu' yn y Cod. Yn Rheoliadau 2023, cyfieithir 'unsold' fel 'nas gwerthwyd'. Bydd y 22 cyfeiriad at 'heb ei werthu'/'heb eu gwerthu' yn y testun Cymraeg yn cael eu diweddaru i 'nas gwerthwyd' er mwyn cyd-fynd â Rheoliadau 2023.